Mae Ymddiriedolaeth Cranfield yn elusen gofrestredig annibynnol a phrif ddarparwr cymorth rheoli pro bono i elusennau lles yn y DU. Gyda’n cofrestr o bron i 1400 o wirfoddolwyr medrus iawn, sy’n dod â phrofiad o amrywiaeth o sectorau, rydym yn darparu cymorth rheoli am ddim a gwasanaethau meithrin gallu i elusennau a sefydliadau nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â materion lles dynol. Yn elusen genedlaethol, rydym yn gweithio ar sail gwlad a rhanbarthol, gydag aelodau tím a gwirfoddolwyr wedi’u leoli yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Fel elusen, ein nod yw grymuso elusennau lles rheng flaen i ffynnu, goresgyn heriau a darparu budd cymdeithasol hirdymor. Mae gennym hanes 33 mlynedd o gefnogi elusennau rheng flaen yn llwyddiannus gydag ymgynghoriaeth reoli, mentora, hyfforddiant, cyngor a gwybodaeth. Drwy weithio gyda gwirfoddolwyr, rydym yn gallu darparu cymorth sy’n rhad ac o ddim, o werth uchel ac yn gost-effeithiol. Mae’r galw am wasanaethau Ymddiriedolaeth Cranfield yn uchel ac mae wedi bod yn tyfu tua 20% flwydyn ar ôl blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf. 

Ein gwaith yng Nghymru 

Galluogodd ein dyfarniad tair blynedd yn 2018 gan Raglen Cefnogi Sgiliau Trydydd Sector y Loteri Genedlaethol Cranfield i lansio, profi a siapio sylfeini ei gwasanaeth pwrpasol i Gymru – gan ganolbwyntio yn gyntaf ar ganolfannau trefol De Cymru ac sydd bellach yn ymateb i’r galw o bob rhan o Gymru. 

Gwyddom fod angen eich cefnogaeth yng Nghymru ar fyrder. Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ddifrifol mewn cymunedau, yn enwedig i grwpiau a oedd eisoes dan anfantais, yn agored i niwed neu’n wynebu caledi. O ganlyniad, mae llawer o elusennau, sydd eisoes wedi eu heffeithio’n ddirfawr gan y pandemig, yn adrodd bod galw cynyddol am eu gwasanaethau yn erbyn cefndir o adnoddau sy’n lleihau a dyfodol ansicr. Mewn ambell achos, mae diffyg cyllid drwy’r pandemig wedi arwain at golli staff medrus a phrofiadol, lleihau gwasanaethu ac weithiau, yn anffodus, cau. 

Rydym wedi adeiladu rhwydwaith cryf o wirfoddolwyr, cymuned cleientiaid elusennol a pherthnasoedd ymddiriedus gyda sefydliadau cymorth trydydd sector a chyllidwyr eraill yng Nghymru, sydd wedi’u gwahodd i atgyfeirio elusennau a sefydliadau nid-er-elw eraill atom am gymorth. 

Rydym yn gweithio gyda channoedd o elusennau cymwys ar brosiectau pro bono bob blwyddyn. 

Ein gwasanaethau craidd yw: 

  • Ymgynghoriaeth

Cefnogaeth ddwys yn mynd i’r afael â heriau rheoli penodol ar draws ystod o feysydd busnes e.e. cynllunio strategaeth a busnes, rheolaeth ariannol, marchnata, llywodraethu, datblygu’r gweithlu, asesu effaith, digidol a TG. 

Bydd ein cydlynydd prosiect yn siarad â chi drwy ein proses, yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â Jayne Kendall, ein rheolwr prosiect rhanbarthol sydd wedi’i lleol yng Nghymru. Bydd eich rheolwr prosiect yn gweithio gyda chi ar friff eich prosiect cyn eich paru ag ymgynghorydd gwirfoddol sydd â’r profiad a’r arbenigedd penodol i gefnogi’ch prosiect.  Gwnewch gais nawr 

  • Mentora 

Mae’n galluogi arweinwyr elusennau i drafod ystod o faterion rheoli gyda mentor profiadol. P’un a ydych am ddatblygu eich gyrfa, neu feithrin eich sgiliau fel arweinydd, gall partneriaeth fentora fod yn brofiad gwerth chweil a buddiol. Gwnewch gais nawr

  • Ar Alwad

Mae gwasanaeth ‘Ar Alwad’ Cranfield yn wasanaeth cyngor dros y ffôn/o bell ar faterion uniongyrchol, tymor byr. Mae ein tîm profiadol a rhwydwaith o wirfoddolwyr busnes wrth law i ateb eich cwestiynau mwyaf dybryd.  Gwnewch gais nawr

  • Cyfnewid ymhlith Cyfoedion

Cymorth grŵp cyfoedion wedi’i hwyluso ar gyfer arweinwyr elusennau, gan ddwyn ynghyd profiadau a heriau o wahanol sectorau a rhanbarthau’r DU. 


Gweminarau Am Ddim

Mae gennym ddwy gyfres o Weminarau, Hanfodion Rhagoriaeth a Dysgu gydag Arweinwyr. Y mae croeso i bob elusen eu mynychu a chael mynediad iddynt am ddim. Rydym yn cynnig gweminarau byw gyda sesiynau Holi ac Ateb. 
Rydym hefyd yn deall y gall rhedeg elusen fod yn brysur ac nid yw bob amser yn hawdd neilltuo amser i fynychu gweminarau. Dyna pam rydym yn cynnig llyfrgell o weminarau o’r gorffennol, fel y gallwch elwa o’r pynciau a’r trafodaethau, hyd yn oed os na fedrech ddod i’r digwyddiad byw. 

Gweler ein holl weminarau yn y gorffennol mewn un lle ar ein sianel gweminar. 

Os gwelwch yn dda cofrestrwch ar gyfer pob gweminar hyfforddi elusennol am ddim yn y dyfodol.

Registered Charity No: 800072 | Scottish Charity No: SCO40299 | Company No: 2290789 | Telephone No: 01794 830338
Log in | Powered by White Fuse